Ffilm , Drama Deledu, Hysbysebion a Lluniau
Hefyd, mae gan Gareth drwydded drôn CAA PfCO sy’n golygu y gall gynnig lluniau llonydd uchel eu hansawdd i chi a delweddau symudol wrth chwilio am leoliad ffilmio. Mae’r gallu i weld darpar leoliad o’r awyr yn adnodd anhygoel ar gyfer adrannau Teledu a Ffilm. Gellir saethu’r fideo, ei olygu a’i anfon yn uniongyrchol atoch ar y diwrnod, os oes galw am hynny.
Rydyn ni’n ychwanegu lleoliadau newydd a ffres yn gyson at ein llyfrgell ffeiliau. Rydyn ni hefyd yn chwilio’n barhaus am leoliadau diddorol a newydd ar gyfer ffilmiau a lluniau ac ar hyn o bryd mae galw mawr am y canlynol:- hen dai heb eu moderneiddio, plastai, maenordai, ysgolion, ysbytai, swyddfeydd a ffermydd.
Mae Gareth Roberts wedi bod yn rheoli lleoliadau a gwasanaethau ar gyfer ffilm a theledu drwy Gymru am nifer o flynyddoedd. Mae ei wybodaeth eang am leoliadau yng Nghymru yn ymestyn o draethau Môn i fynyddoedd creigiog Eryri, o ganol dinasoedd Abertawe a Chaerdydd i swyn Dinbych-y -Pysgod a Llanddwyn a Chestyll y Gogledd, y De, y Dwyrain a’r Gorllewin. Os ydy eich ffilm yn chwilio am harddwch a gerwinder, golygfeydd llwm mewn dinasoedd, neu Gymoedd dramatig Cymru, mae gan Gareth Roberts y profiad i roi’ch cynhyrchiad ar waith.
Mae ei waith yn cynnwys pob genre fel Rheolwr Lleoliadau, Sgowt Lleoliadau, Rheolwr Uned a Threfnydd ac mae ganddo gysylltiadau ym maes cyflenwyr Gwasanaethau Cynhyrchu i’r Diwydiant Ffilm a Theledu yng Nghymru.
Yn newydd ar gyfer 2020 – mae gan Gareth erbyn hyn gymwysterau CAA PfCO fel peilot drôn sydd yn ei alluogi i gynnig fideo a lluniau llonydd o’r awyr tra’n sgowtio am leoliad. Adnodd gwych ar gyfer cyfarwyddwyr, cynhyrchwyr ac adrannau eraill yn ystod y cyfnodau cyn-gynhyrchu.